Tumblr Rhys

Month

May 2011

23 posts

Caneuon eraill am Mr Urdd

Os ydy international super hit Rapsgaliwn yn dechrau eich diflasu chi dyma eich hatgoffa am ddau gan arall am Mr Urdd.

Yn gyntaf, cân sy’n cydio’n berffaith yn y teimlad yna rydych chi’n cael wrth weld Rapsgaliwn, unwaith eto, yn dawnsio efo Mr Urdd. Mr Urdd gan Saizmundo gyda’r gytgan gofiadwy “Kick in, Kick in i Mr Urdd!”

Yn ail, un o’r caneuon Cymraeg gorau erioed yn fy marn i. Trons Mr Urdd gan Super Furry Animals. Roedd hon yn b-side ar sengl Herman Loves Pauline nol yn 1997.  

May 30, 2011
Jumbled

Take a look at this paragraph. Can you read what it says? All the letters have been jumbled (mixed). Only the first and last letter of ecah word is in the right place:

I cnduo’t bvleiee taht I culod aulaclty uesdtannrd waht I was rdnaieg. Unisg the icndeblire pweor of the hmuan mnid, aocdcrnig to rseecrah at Cmabrigde Uinervtisy, it dseno’t mttaer in waht oderr the lterets in a wrod are, the olny irpoamtnt tihng is taht the frsit and lsat ltteer be in the rhgit pclae. The rset can be a taotl mses and you can sitll raed it whoutit a pboerlm. Tihs is bucseae the huamn mnid deos not raed ervey ltteer by istlef, but the wrod as a wlohe. Aaznmig, huh? Yaeh and I awlyas tghhuot slelinpg was ipmorantt! See if yuor fdreins can raed tihs too.

May 25, 2011
Glaw

Roeddwn i’n pori’n ail gyfrol Ffydd ac Argyfwng Cenedl gan Tudur p’nawma; mewn un pennod mae’n adrodd am yr arfer oedd arfer bodoli o alw cyfarfodydd gweddi arbennig yn yr eglwysi Cymraeg er mwyn ymbil ar Dduw i roi glaw mewn amser o sychder. Arfer a ddaeth i ben mewn sawl ardal ac eglwys pan y daethpwyd i gredu, yn anffodus, nad oedd gan Dduw ddim byd i wneud a byd natur ac mae byd y gwyddonydd yn unig ydoedd.

Fodd bynnag, fe’m hatgoffwyd o stori debyg am aelodau Bethany, Rhydaman y rhannodd Mamgu gyda mi unwaith. Mae’n rhaid mae rhywbryd tua’r 1930au oedd hi ac roedd hi’n haf crasboeth. Oni fyddai glaw yn dod yn fuan mi fyddai cnydau Dyffryn Aman i gyd yn methu. Galwodd Nantlais, Gweinidog yr Eglwys ers Diwygiad 04-05, gyfarfod gweddi arbennig i ofyn i Dduw am law. Er ei bod hi’n noson grasboeth arall daeth aelodau Bethany i’r cyfarfod gweddi gyda’i ymbarêls a’i cotiau glaw cymaint oedd eu ffydd yn Nuw.

Wrth iddyn nhw gerdded adref o’r cyfarfod y noson honno dechreuodd hi bigo bwrw.

May 25, 2011
May 25, 2011
Play
May 23, 2011
Play
May 23, 2011
Play
May 22, 2011
May 20, 2011
May 19, 2011
“Un o’r tasgau cyntaf fydd Cymreigio mudiadau megis Cymdeithas yr Iaith …” —Emyr Llywelyn yn ‘Adfer a’r Fro Gymraeg’ (1976). 
May 16, 2011
May 16, 2011
Play
May 13, 2011
May 12, 2011
#cymdeithas yr iaith
May 10, 2011
“I mi mae’r hen bwyslais ar gydweithrediad, ar gryfhau cyfrifoldeb bro ac ardal, ar geisio creu cymdeithas aml ganolog, gyda’r Wladwriaeth yn cymryd ei lle fel ffurf gymdeithasol ymhlith llawer o ffurfiau cymdeithasol eraill, a’r cwbwl trwy ei gilydd a chyda’i gilydd yn galluogi pobl i fyw’n rhydd a ffyniannus – i mi, mae’r athrawiaeth hon yn dal yn berthnasol. Ac mae hi hefyd yn athrawiaeth sydd, yn fy nhyb i, yn gorwedd yn esmwythach ar gydwybod y Cristion na’r un arall.” —O’r cwbl dwi wedi darllen gan Tudur Jones dros y blynyddoedd diwethaf y pwt yma allan o lythyr ganddo at Gwynfor yn 1981 yw fy ffefryn. Mae’n darllen yn fydryddol bron ond eto’n llawn sylwedd gan mae’r pwt uchod, i’m tyb i, ar ôl astudio ei holl waith sy’n crynhoi orau ei feddwl a’i syniadaeth wleidyddol sydd, fel y mae’n dweud, yn gorwedd yn esmwyth ar gydwybod y Cristion. 
May 9, 2011
Play
May 9, 2011

clientsfromhell:

So, I met with a used car dealership for a potential website project. The owner fulfilled every stereotype of a used car salesman, from the velour jumpsuit to the gold chains. The meeting is best summed up by this amazing question, (please read in thick NY accent): “So… like uh… When you build dis website…. You gotta do it in my garage or what?!”

May 8, 201184 notes
Play
1:16
May 7, 2011
“Iddo ef cenhadaeth fawr bywyd oedd amddiffyn a mawrygu ei dreftadaeth Seisnig. Ac nid treftadaeth ddiwylliannol yn unig ydoedd iddo. Nid Lloegr iddo ef, Lloegr heb ei hymerodraeth. Ymhyfrydai yn ei himperialaeth hi, yn y frenhiniaeth, yn yr arglwyddiaeth. Cai fwynhad wrth gam ynganu enwau estroniaid. Saesneg iddo ef oedd yr unig iaith gwerth cymryd sylw ohoni. Ac achubid hyd yn oed genhedloedd eraill os oeddynt yn defnyddio Saesneg. Roedd ei angladd yn ddigwyddiad hunllefol i bobl Lloegr oherwydd gwyddent yn iawn eu bod yn claddu cyfnod gydag ef.” —R. Tudur Jones yn adrodd am angladd Winston Churchill yn y Ddraig Goch, fis Mawrth, 1965.
May 7, 2011
Disgwyl rhywbeth gwell i ddod

Ychydig dros flwyddyn yn ôl fe ddechreuodd S4C hyrwyddo Pen Talar. Y gerddoriaeth gefndir i’r trailer a llawer o olygfeydd clo’r penodau oedd ‘Disgwyl rhywbeth gwell i ddod’ gan Meic Stevens. Roedd y gân yn cydio yn nyhead Defi a Doug i weld rhywbeth gwell yn dod yn eu bywydau ac yn hanes eu cenedl. Ym mywydau personol Defi a Doug a hefyd yn hanes y genedl roedd cam ymlaen yn aml yn cael ei ddilyn gan ddau gam rhwystredig yn ôl. Y gerddoriaeth gefndir i’r golygfeydd yma oedd ‘Cyllyll yn dy gefn’ gan Dyfrig Evans. Unwaith eto, cân oedd yn cydio yn yr ing o gael pobl a chael eich cenedl chi eich hun yn eich gadael i lawr.

Rwy’n sôn am Pen Talar drachefn oherwydd bod y stori yn parhau ac rydym ni i gyd, pob Cymro wedi bod yn dyst i’r bennod ddiweddaraf yn ystod yr oriau diwethaf. Yn dilyn llwyddiant y refferendwm roeddem ni, fel Defi a Doug yn disgwyl rhywbeth gwell i ddod ond mewn gwirionedd rhyw gyllell emosiynol yn ein cefn y cawsom ni heddiw.

Ond mae ein dyheadau yn cael eu cyflawni neu eu chwalu yn ddibynnol ar beth yw gwrthrych ein gobaith. Disgwyl rhywbeth gwell i ddod y byddwn ni’n gwneud hyd dragwyddoldeb os ydym ni’n rhoi ein gobaith mewn cestyll tywod. Dyna pam y byddwn ni fel Cymry yn parhau i ethol gwleidyddion bob pedair blynedd, weithiau yn llawn gobaith, weithiau mewn tor calon hyd nes y daw un gwell i sefydlu ei Deyrnas yn derfynol.

Ond er mod i fel pob cenedlaetholwr arall wedi siomi’n arw heddiw rwy’n gwybod, trwy ffydd, y daw rhywbeth gwell i ddod. Ond os ydy Cymru am gael bod yn rhan o’r cyflawniad yma efallai fod yn rhaid i ni fynd unwaith eto fel plant, dysgu gostyngeiddrwydd a rhoi ein gobaith mewn rhywbeth, yn rhywun, mwy na ni a’n cenedl ein hunain.

May 6, 2011
May 5, 2011
May 3, 2011
Maddeuant

Rhaid i mi gydnabod fod y newyddion bore ‘ma am farwolaeth Osama Bin Laden yn fy mhryderu braidd. Nid fod owns o gydymdeimlad gyda mi tuag at Bin Laden na dim byd yr oedd e’n ei gynrychioli cofiwch. Yr hyn anfonodd ias lawr fy nghefn bore ‘ma oedd ymateb y gorllewin, yn benodol ymateb rhai oedd yn mynnu eu bod nhw’n ddilynwyr Iesu Grist.

Er mor ofnadwy oedd troseddau Bin Laden, rwy’n cael hi’n anodd derbyn y cynsail fod modd dathlu fod unrhyw un wedi ei ladd. Gellid teimlo elfen o foddhad pe tae Bin Laden wedi ei ddal a chael ei ddwyn gerbron y Llys Troseddau Rhyngwladol yn yr Hague. Ond dathlu ei fod wedi ei ladd gan swyddog milwrol Americanaidd? Na, all fy nghydwybod Cristnogol i byth caniatáu i mi ddathlu dan y fath amgylchiadau.

Ers rhai blynyddoedd bellach dwi wedi bod yn dilyn datblygiadau un eglwys benodol yn yr Unol Daleithiau yn bennaf oherwydd gallu arbennig eu harweinydd fel pregethwr dawnus ac hefyd defnydd gwych yr eglwys o dechnoleg a chyfryngau newydd. Ond ers y dechrau rwyf wedi synhwyro rhywsut fod y brawd dan sylw ddim yn deall a dehongli sgop yr efengyl fel ag yr ydw i ac ei fod yn gadael i ddiwylliant Americanaidd yn hytrach na dysgeidiaeth Iesu lywio ei fyd olwg mewn rhai meysydd. Bore ‘ma wrth ddilyn ei ffrwd ar twitter fe’m siomwyd yn arw, er na ches i fy synnu mewn gwirionedd, gan ei ymateb i farwolaeth Bin Laden.

Finished long day of gospel preaching to hear the news that bin Laden is now dead…Thank you Jesus for being His JUDGE.

The cheering crowds remind us that justice is glorious & comes ultimately through Jesus cross or hell. Justice wins.

Proverbs 28:5 Evil men do not understand justice, but those who seek the LORD understand it completely.

Wn i ddim yn iawn sut mae ymateb i’r sylwadau uchod ganddo heblaw am deimlo fod rhywbeth sylfaenol o’i le gyda’i ddealltwriaeth o’r cymod a’r maddeuant sy’n bosib trwy Grist. Ond fe’m calanogwyd drachefn gan ambell i drydariad gan bobl oedd yn amlwg yn teimlo’r un pryder a mi:

They kill the leader, and now every single US embassy on high alert. What a pointless war.

So strange to see American crowds outside the white house doing exactly what we condemned the middle east for doing on 9/11. Really sad.

An eye for an eye leaves the whole world blind.

When jesus said pray 4 ur enemies im pretty sure he meant not 2 bomb them, but Jesus wasnt running for president he was headed to the cross.

Ac yn olaf felly dyma rannu rhai adnodau sy’n berthnasol iawn dwi’n meddwl. Adnodau y byddai rhai Cristnogion gung-ho yn medru dyfnhau eu dealltwriaeth o’r cymod a’r maddeuant yng Nghrist wrth fyfyrio drostynt.

Os gwnewch chi faddau i bobl pan maen nhw wedi gwneud cam â chi, bydd eich Tad nefol yn maddau i chi hefyd. Ond os na wnewch chi faddau i’r bobl sydd wedi gwneud cam â chi, fydd eich Tad ddim yn maddau i chi am bechu yn ei erbyn e. (Mathew 6:14-15)

Diarfogodd y tywysogaethau a’r awdurdodau, a’u gwneud yn sioe gerbron y byd yng ngorymdaith ei fuddugoliaeth arnynt ar y groes. (Colosiaid 2:15)

May 2, 2011
Next page →
2011 2012
  • January 5
  • February 1
  • March 2
  • April 3
  • May 4
  • June 8
  • July
  • August
  • September
  • October
  • November 1
  • December
2010 2011 2012
  • January 17
  • February 9
  • March 15
  • April 20
  • May 23
  • June 19
  • July 6
  • August 15
  • September 8
  • October 10
  • November 6
  • December 9
2010 2011
  • January
  • February
  • March
  • April
  • May
  • June
  • July 29
  • August 30
  • September 6
  • October 1
  • November 4
  • December 7