Wnes i ryddhau Torri Syched 003 ar y wefan rai wythnosau yn ôl ond heb gael amser tan nawr i’w blygio. Dyma’r drydedd yn ein cyfres o ffilmiau byr yn trafod ffydd. Thema’r ffilm yma ydy’r modd rydym ni i gyd yn hoffi gwybod beth sydd rownd y gornel nesaf, am wybod sut mae’r stori’n gorffen. Ond mae ein bywydau ni, ar y cyfan, yn ansicr – dydyn ni ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd fory gan fod y byd yma’n taflu pob math o bethau annisgwyl ac anodd i’n cyfeiriad. Mae’r ansicrwydd yma ynglŷn â’n dyfodol yn ein harwain i bryderu. Duw sy’n dal ein dyfodol ac felly drwy ymddiried ein dyfodol iddo fe gallwn ni gael ein rhyddhau i fwynhau bywyd heddiw yn ei gyflawnder.

Cofiwch hefyd fynd draw i wefan Torri Syched i wylio Torri Syched 001 a 002 os nad ydych chi wedi gweld hwnnw eto. Mwynhewch.